Pan fwy'n crymu mhen yn angau, Gâd im' brofi'th gariad rhad, Gwel'd y nefoedd yn agored, Iesu ar ddeheulaw'r Tad: Gwena arnaf, Arglwydd grasol, Pan yn nwylaw angau glâs; Rho dy hyfryd bresenoldeb Im' wrth fyn'd o'r byd i maes. Cofia di am danaf, Iesu, Pan f'wy'n gorwedd yn y bedd; Cŵyd fi fyny trwy dy allu, Cŵyd fy llwch mewn newydd wedd: Gâd im' eistedd ar dy ddeau Yn y bore mawr sy'n d'od; Gyda thyrfa y ffyddloniaid, Canaf iti beraidd glod. fy mhen yn angau :: fy mhen wrth farw Tôn [8787D]: Achor (<1876) |
When I bow my head in death, Let my experience thy free love, See heaven open, Jesus at the right hand of the Father: Smile upon me, gracious Lord, When in the hands of utter death; Give thy delightful presence To me on going out from this world. Remember thou me, Jesus, When I am lying in the grave; Raise me up through thy power, Raise my dust in a new condition: Let me sit at thy right In the great morning that is coming; With the throng of the faithful, I shall sing to thee sweet praise. my head in death :: my head on dying tr. 2021 Richard B Gillion |
|